Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202602530

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss P nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w chwyn a wnaeth hi iddo ym mis Gorffennaf 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Miss P ac nad oedd wedi cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss P gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, ymddiheuro ymhellach am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon, cynnig talu £150 i Miss P i gydnabod ei hamser a’i thrafferth wrth wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.