Dyddiad yr Adroddiad

22/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202602274

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch y driniaeth a dderbyniodd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb ffurfiol iddo i’w gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 3 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Mr A am beidio â rhoi ymateb ffurfiol i’w gŵyn ac egluro pam y digwyddodd hyn, cynnig taliad iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr oedi a rhoi’r ymateb terfynol i’w gŵyn.