Cwynodd Dr B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth hi iddo ym mis Hydref 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Dr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Dr B gydag ymddiheuriad am yr oedi cyn cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, cynnig £75 i Dr B i gydnabod ei hamser a’i thrafferth wrth wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.