Cwynodd Mr C am newidiadau i’w wasanaeth byw â chymorth, sy’n cael ei gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ddigonol i’r pryderon a gododd.
Roedd yr Ombwdsmon wedi penderfynu’n flaenorol nad oedd y Cyngor wedi cael cyfle rhesymol i ymateb i gwynion Mr C, a chyfeiriodd y gŵyn at y Cyngor iddo ddarparu ymateb. Derbyniodd y Cyngor, er bod dau fis wedi mynd heibio, nad oedd cwyn Mr C wedi’i symud ymlaen. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gydnabod cwyn Mr C o fewn wythnos, ac ymateb i’w bryderon o fewn mis.