Cwynodd Miss A ei bod yn anfodlon ag ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i’w chŵyn. Dywedodd ei bod wedi’i gadael gyda chwestiynau heb eu hateb am yr ystyriaeth a roddwyd i ddiogelwch a lles ei merch, ac ansicrwydd ynghylch a oedd y Cyngor wedi dilyn y gweithdrefnau cywir, wrth wneud penderfyniad am ddisgybl arall.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er na allai’r Cyngor rannu gwybodaeth am ddisgybl arall, nad oedd wedi darparu esboniad clir nac ymateb trylwyr i bryderon Miss A ynghylch ei gyfrifoldeb tuag at ei merch, a sut yr oedd yn sicrhau ei fod yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A a darparu ymateb i’w phryderon penodol, o fewn 4 wythnos.