Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202601637

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu ag ymateb i’w bryderon ynghylch coed cyfagos.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chofnodi pryderon Mr A yn unol â’i Weithdrefn Gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 3 wythnos, gynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mr A am fethu â chofnodi ei bryderon fel cwyn ffurfiol, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn yn mynd i’r afael â’i bryderon.