Cwynodd Miss P fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu â mynd i’r afael â’i phryderon ynghylch nad oedd ei heiddo’n addas nac yn ddiogel iddi hi a’i merch ifanc. Cwynodd Miss P hefyd am ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chymdogion.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod yn anghywir i uwchgyfeirio cwyn Miss P i Gam 2 o’i broses gwynion corfforaethol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 3 wythnos, ysgrifennu at Miss P gydag ymddiheuriad am y methiant a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2.