Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w gŵyn, ei fod wedi gwrthod ei gais am iawndal ariannol heb roi esboniad clir iddo o sut y daethpwyd i’r penderfyniad hwn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chqafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, y byddai’n anfon ymateb pellach at Mr A o fewn mis, yn nodi’r rhesymeg dros ei benderfyniad.