Dyddiad yr Adroddiad

08/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) / Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202601314

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymateb i’w chŵyn cam 2 ynghylch cefnogaeth anghenion dysgu ychwanegol i’w mab.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gŵyn cam 2 Ms A yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn cam 2 o fewn 3 wythnos, a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a’r diffyg ymateb i geisiadau am ddiweddariad.