Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi methu â chwblhau’r atgyweiriadau i’r ffordd yr oedd wedi codi pryderon yn ei chylch.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr atgyweiriadau wedi’u cwblhau i’r ffordd dan sylw, fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi cadarnhau ei fod wedi bod yn treialu peiriannau newydd i wneud yr atgyweiriadau, ond ni hysbysodd Mr A am hyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 1 wythnos, ysgrifennu at Mr A a’i hysbysu am y peiriannau newydd a ddefnyddir gan y Cyngor, a sut mae’r ffordd dan sylw ar y rhestr berthnasol i’w hatgyweirio o fewn y mis nesaf.