Cwynodd Ms A fod Cyngor Ynys Môn wedi methu â dilyn ei weithdrefn gwyno pan wrthododd ymchwilio i’w chwyn am y methiant i gymryd camau priodol mewn ymateb i’w phryderon diogelu.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi hysbysu Ms A yn gywir na allai dderbyn ei chwyn o dan y Weithdrefn Gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol, ac nad oedd yn gallu rhannu na datgelu rhywfaint o wybodaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon hefyd fod y Cyngor wedi methu ag ystyried y gallai ymateb i agweddau ar gŵyn Ms A o dan ei broses Gwyno Gorfforaethol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 1 wythnos, gynnig ymddiheuriad i Ms A, cydnabod y gŵyn y gellir ei hystyried o dan y polisi Cwynion Corfforaethol, a chynnig darparu ymateb yn unol â’r weithdrefn honno.