Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202601214

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Caerdydd wedi methu â chynnal ymchwiliad i’w adroddiadau am niwsans sŵn statudol posibl.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio i’r sŵn a achosodd rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i dderbyn adroddiad Mr A ac, o fewn pedair wythnos, i ysgrifennu at Mr A i esbonio beth fyddai’r camau nesaf mewn perthynas â sut y byddai’r adroddiad yn cael ei adolygu a’i ymchwilio.