Dyddiad yr Adroddiad

06/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202601116

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu ag ymateb i’w chwynion am addysg ei mab.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gwynion cam 1 a cham 2 Mrs A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mrs A am yr oedi, a chyhoeddi ymateb cam 2 i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.