Cwynodd Ms A nad oedd y Cyngor wedi cymryd ei chŵyn o ddifrif. Cwynodd am ymddygiad gweithiwr cymdeithasol a bod y Cyngor wedi dweud nad oedd ganddi ganiatâd i gael eiriolwr.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi codi’r materion hyn gyda’r Cyngor a’i bod wedi gofyn am i’w chŵyn gael ei huwchgyfeirio i Gam 2 o Weithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi uwchgyfeirio ei chŵyn fel y gofynnwyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn pythefnos:
a) Gysylltu â Ms A i bennu dyddiad ar gyfer cyfarfod i benderfynu pa elfennau o’r gŵyn y dylid eu huwchgyfeirio i Gam 2 o Weithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
O fewn pythefnos i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn a) uchod, bydd y Cyngor yn:
b) Ysgrifennu at Ms A yn amlinellu’r cwynion sy’n destun ymchwiliad Cam 2 ac egluro’r broses a’r camau nesaf yn y broses gwyno.