Cwynodd Mr Atkins nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cywiro pethau yn dilyn cyfarfod cwynion a gynhaliwyd gydag ef ym mis Hydref 2025.
Fel rhan o asesiad, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd rhai camau i ddatrys pryderon Mr Atkins yn dilyn y cyfarfod. Fodd bynnag, ni welodd yr Ombwdsmon dystiolaeth bod y Bwrdd Iechyd wedi trafod nodiadau clinigol perthnasol gyda Mr Atkins mewn apwyntiad dilynol, yn dilyn camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod cwynion. Cydnabu’r Ombwdsmon bryderon Mr Atkins bod peidio â chael y cyfle i drafod y nodiadau clinigol wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr Atkins nad oedd y nodiadau clinigol wedi’u trafod gydag ef, yn dilyn y cytundeb a gyrhaeddwyd. Byddai hefyd yn cynnig, ac os byddai’n cael ei dderbyn, yn trefnu cyfarfod gyda Mr Atkins a chlinigwr priodol, i drafod y nodiadau clinigol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau gweithredu hyn o fewn mis i benderfyniad yr Ombwdsmon, ac i ddarparu tystiolaeth o gwblhau’r camau gweithredu hyn o fewn pythefnos arall.