Cwynodd Mr A ynglŷn â sut roedd y Cyngor wedi delio â’i gais am drwydded waith ar gyfer ei fab, a oedd yn 13 oed ar y pryd. Roedd Mr A hefyd yn bryderus ynghylch dilysrwydd is-ddeddfau’r Cyngor ynghylch cyflogi plant ac nad oeddent wedi’u cyhoeddi ar ei wefan nac wedi’u darparu iddo mewn modd amserol, pan ofynnodd am gopi.
Dywedodd y Cyngor nad oedd y drwydded waith wedi’i gwrthod a bod Mr A wedi bodloni ei geisiadau am ragor o wybodaeth ynghylch oriau gwaith ac asesiad risg ym mis Medi 2024. Dywedodd y Cyngor, pan gysylltodd Mr A ag ef ynghylch y mater ym mis Mawrth 2025, fod rhywfaint o ddryswch wedi bod o fewn ei broses weinyddol, pan ofynnwyd iddo wneud cais eto.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch sut roedd y Cyngor wedi delio’n wael â chais Mr A, a oedd yn gyfystyr â chamweinyddu a oedd wedi achosi anghyfiawnder iddo ef, a’i fab. Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i, o fewn 1 mis, roi ymddiheuriad addas i Mr A a chynnig taliad ex-gratia o £250 i adlewyrchu’r cyfle gwaith a gollwyd i’w fab, a’r amser a’r drafferth a dreuliodd Mr A yn mynd ar drywydd yr hyn a ddylai fod wedi bod yn gŵyn ddiangen.
Ni allai’r Ombwdsmon benderfynu’n iawn ar ddilysrwydd, neu fel arall, yr is-ddeddfau ac ni ystyriodd y byddai’n gymesur ymchwilio i’r mater ynghylch argaeledd yr is-ddeddfau hynny.