Dyddiad yr Adroddiad

29/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202510760

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio i broblemau lleithder a llwydni difrifol yn ei chartref, a’u datrys. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch faint o amser yr oedd Ms A wedi bod yn cyfathrebu â’r Cyngor ynglŷn â’i phryderon, a bod y mater yn parhau heb ei ddatrys.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gymryd camau i fynd i’r afael â phryderon Ms A, gan gynnwys penodi syrfëwr allanol i gynnal archwiliad lleithder annibynnol o’i chartref, ac i’r Cyngor gynnal unrhyw atgyweiriadau a nodwyd sy’n dod o fewn ei gyfrifoldeb.