Cwynodd Ms A fod y Feddygfa wedi atal ei meddyginiaeth heb rybudd, nad oedd wedi ymchwilio i bryderon clinigol a gododd am ei phen-glin a’i hysgwyddau, ei bod wedi ysgrifennu atgyfeiriad gyda gwybodaeth ar goll a’i bod wedi ysgrifennu crynodeb o ofal i drydydd parti a oedd yn cynnwys anghywirdebau.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi codi’r materion hyn gyda’r Feddygfa, ond nad oedd wedi ymateb i bob pwynt o’i chwyn. Nid oedd wedi ymddiheuro chwaith am faterion yr oedd yn cydnabod y gellid bod wedi ymdrin â nhw’n well. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i, o fewn 1 mis:
a) Ymddiheuro i Ms A am wneud atgyfeiriad gyda gwybodaeth anghyflawn.
b) Rhoi esboniad ysgrifenedig pam y stopiwyd meddyginiaeth Ms A heb ddweud wrthi a mynd i’r afael â’i chŵyn am ymchwiliadau clinigol na chynhaliwyd ar gyfer ei phen-glin a’i hysgwyddau.
c) Ymddiheuro am beidio â mynd i’r afael â’r uchod yn ymateb ffurfiol y Feddygfa i’r gŵyn.
d) Rhoi esboniad ynghylch gwybodaeth a rannwyd â chlinig allanol am hanes meddygol Ms A.