Dyddiad yr Adroddiad

28/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507493

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A ei fod wedi dioddef anaf o ganlyniad i ganwla hydradu ddatgysylltu yn ystod llawdriniaeth cataract ar ei lygad yn 2024.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi dioddef difrod i’w lygad a oedd angen llawdriniaeth a thriniaeth ychwanegol, ond nad oedd hyn yn ganlyniad i unrhyw fethiant mewn gofal.

Cyfeiriodd Mr A ei achos at yr Ombwdsmon, a gafodd gyngor clinigol ar y gŵyn. Nododd y cynghorydd, hyd yn oed lle mae’r canwla hydradu wedi’i gysylltu’n iawn a’i wirio cyn llawdriniaeth, y gall, yn anffodus, ddatgysylltu o hyd, ar achlysuron prin ac anrhagweladwy, o dan y pwysau uchel yn ystod y llawdriniaeth. Ni chanfu’r Ombwdsmon dystiolaeth o unrhyw ddiffygion gan staff cyn nac yn ystod y driniaeth, ac ni chadarnhaodd y gŵyn.