Cwynodd Ms A am safon y gofal clinigol a ddarparwyd i’w diweddar nain, Mrs B, ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023 pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Treforys oherwydd dryswch ac yn dilyn cwymp. Yn benodol, cododd Ms A bryderon bod tystiolaeth o strôc wedi’i cholli yn ystod y cyfnod hwn.
Cafodd yr Ombwdsmon gyngor clinigol ar y gŵyn.
Canfu’r ymchwiliad un diffyg yn y gofal meddygol; dylai Mrs B fod wedi cael ei hadolygu gan y tîm meddygol am ei lefelau sodiwm isel a nodwyd cyn iddi gael ei rhyddhau o’r Adran Achosion Brys. Fodd bynnag, nodwyd y gallai unrhyw ymchwiliadau yn ymwneud â hyn fod wedi digwydd ar sail cleifion allanol ac ym mhob achos adolygwyd Mrs B gan y tîm meddygol lai na 2 ddiwrnod yn ddiweddarach. Felly, ni newidiodd hyn y driniaeth na’r canlyniad i Mrs B.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth glinigol gofnodedig o strôc a fethwyd gan glinigwyr a oedd yn ei thrin.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.