Cwynodd Mr C am y gofal a ddarparwyd i’w ddiweddar dad, Mr A, gan ei Feddygfa (“y Feddygfa”). Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd unrhyw gyfleoedd wedi’u colli i wneud diagnosis a thrin canser ei ddiweddar dad Mr A rhwng Hydref 2023 a 5 Hydref 2024 pan wnaed diagnosis. Ystyriodd hefyd a ddylid bod wedi cynnal ymchwiliadau priodol i gadarnhau diverticulitis.
Canfu’r ymchwiliad fod cyfleoedd wedi’u colli i wneud diagnosis a thrin canser Mr A o Ragfyr 2023 ymlaen ac y dylid bod wedi adolygu’r diagnosis o diverticulitis ac ystyried ymchwiliadau. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y ddwy gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Feddygfa ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr C a’r teulu am y methiannau a nodwyd gan ymchwiliad yr Ombwdsmon. Dylai hefyd gael cytundeb ysgrifenedig gan y Meddyg Teulu i drafod yr achos hwn yn eu hasesiad blynyddol nesaf a chynnal cyfarfod dadansoddi digwyddiadau arwyddocaol i fyfyrio ar adroddiad yr Ombwdsmon, a rhoi unrhyw ddysgu a nodwyd i’r Ombwdsmon.