Cwynodd Mrs A am y rheolaeth a’r gofal a ddarparwyd i’w diweddar dad, Mr B, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar a oedd diagnosis a thriniaeth sepsis Mr B yn amserol ac yn briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod diagnosis a thriniaeth Mr B ar gyfer sepsis yn amserol ac yn briodol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth chwaith i awgrymu bod unrhyw oedi wrth wneud diagnosis o haint neu wrth ddarparu triniaeth briodol ar gyfer unrhyw heintiau. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs A.