Dyddiad yr Adroddiad

22/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202503905

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms H nad oedd ei symptomau strôc wedi cael eu cydnabod a’u trin yn brydlon ac yn briodol pan aeth i’r Adran Achosion Brys (“yr ED”) ym mis Mawrth 2024. Dywedodd hefyd nad oedd wedi cael ei monitro’n briodol ac nad oedd wedi derbyn cefnogaeth briodol i ddiwallu ei hanghenion toiled.
Gwelsom nad oedd unrhyw oedi cyn i staff gydnabod symptomau Ms H fel strôc posibl, a chymerwyd camau priodol i sicrhau ei bod wedi cael ei hasesu’n briodol. Fodd bynnag, roedd oedi amhriodol wrth drefnu sgan MRI, i gadarnhau’r diagnosis o strôc, a throsglwyddo Ms H i’r Uned Strôc, a olygai nad oedd gan Ms H fynediad at y gofal arbenigol a’r wybodaeth berthnasol a ddylai fod wedi bod ar gael iddi. O ganlyniad, teimlai Ms H nad oedd ei chyflwr a’i symptomau yn cael eu cymryd o ddifrif a chynyddodd hyn ei straen a’i gofid, a oedd yn anghyfiawnder. Cadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn i’r graddau hynny.

Gwelsom fod cofnodion yr ysbyty yn adlewyrchu monitro digonol a phriodol ac yn dogfennu bod Ms H yn hunanofalu yn bennaf mewn perthynas â’i hylendid personol a’i hanghenion toiled. Ar y cyfan, roedd y gofal a ddarparwyd i Ms H yn cyfateb i’r hyn y byddai wedi’i dderbyn yn yr Uned Strôc, pe bai wedi cael ei throsglwyddo yno’n gynt. Felly, ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms H a chynnig iddi gyfarfod â chynrychiolwyr o’r Adran Achosion Brys, Ward Strôc a Rheolwyr yr Ysbyty, i drafod ei phrofiad ac unrhyw ddysgu pellach y gellir ei gymryd ohono. Cytunodd hefyd i adolygu ei bolisi a’i arfer ar gyfer mynediad at sganiau MRI a sicrhau bod eglurder ynghylch blaenoriaethu ceisiadau y tu allan i oriau ar gyfer cleifion yr amheuir eu bod wedi cael strôc, ac i rannu hynny gyda staff perthnasol. Cytunodd ymhellach i atgoffa staff o ganllawiau perthnasol ar ofal i gleifion yr amheuir eu bod wedi cael strôc, yn ogystal â’r rhai sydd â strôc wedi’i chadarnhau, gan nodi na ddylai absenoldeb canlyniadau MRI ohirio blaenoriaethu cleifion yn briodol, yn enwedig lle mae angen eu trosglwyddo i’r Uned Strôc.