Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn Mrs A ynghylch a oedd y gofal nyrsio a gafodd ei mam, Mrs B, yn Ysbyty Cymunedol De Sir Benfro yn dilyn cwymp ar 10 Ionawr 2024, hyd nes iddi gael ei derbyn i’r Adran Achosion Brys (“ED”) yn Ysbyty Llwynhelyg (“yr Ysbyty”) ar 25 Ionawr, yn amserol ac yn bodloni’r safon briodol.
Ar y cyfan, canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw fethiannau gyda darparu gofal clwyfau, lleddfu poen, arsylwadau cleifion, gofal nyrsio sylfaenol ac atal cwympiadau. Canfu’r ymchwiliad fod symptom diffyg anadl Mrs B wedi’i uwchgyfeirio at staff meddygol a bod camau priodol wedi’u cymryd. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd cwyn Mrs A.
Er nad oedd o fewn amserlen yr ymchwiliad, canfu’r ymchwiliad nad oedd yr asesiadau rheiliau gwely yn unol â pholisi’r Bwrdd Iechyd (i asesu ddwywaith y dydd) ac nad oeddent yn dogfennu’r penderfyniadau a’r rhesymeg dros eu defnyddio rhwng cyn cwymp Mrs B ar 10 Ionawr 2024.
Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i ystyried atgoffa staff perthnasol o bolisi’r Bwrdd Iechyd ar asesu rheiliau gwely a bod asesiadau rheiliau gwely yn cael eu cwblhau ddwywaith y dydd, yn unol â pholisi’r Bwrdd Iechyd. Hefyd i sicrhau bod y penderfyniad i ddefnyddio, neu beidio â defnyddio, rheiliau gwely wedi’i ddogfennu’n glir ac, os oes gan y claf y gallu i wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio rheiliau gwely, bod eu penderfyniad yn cael ei barchu a’i ddogfennu yn unol â safonau nyrsio.