Cwynodd Ms K fod NEWS (Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol – system sgorio safonol a ddefnyddir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol i asesu difrifoldeb salwch acíwt, a nodi’n gyflym y risg o ddirywiad clinigol mewn cleifion sy’n oedolion) ei mam, Ms P, wedi’i gofnodi’n anghywir yn ystod ei hasesiad brysbennu ysbyty ar 22 Ebrill 2023, a chwestiynodd a oedd hyn yn effeithio ar ofal dilynol Ms P.
Dywedodd Ms K y dylai NEWS ei mam fod wedi bod yn uwch a dylai hyn fod wedi sbarduno’r llwybr sepsis (canllaw clinigol amser-gritigol a gynlluniwyd i nodi a thrin sepsis yn gyflym). Dywedodd Ms K fod gan ei mam sepsis a bod oedi cyn darparu triniaeth ar gyfer hyn.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod NEWS Ms P yn ystod y brysbennu wedi’i gofnodi’n gywir. Felly, ni effeithiodd hyn ar y gofal a gafodd yn dilyn y brysbennu. Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd gan Ms P sepsis yn ystod y brysbennu ac felly nad oedd unrhyw arwydd o sbarduno’r llwybr sepsis.
Ni chadarnhawyd y gŵyn.