Dyddiad yr Adroddiad

06/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfeirnod Achos

202500262

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms B ynghylch a oedd y gofal a’r gefnogaeth a ddarparwyd i’w merch yn briodol ac yn unol â’i hanghenion asesedig ac ynghylch y ffordd y gwnaeth Cyngor Bro Morganwg (“y Cyngor”) ymateb i gŵyn ynghylch hyn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod llawer o waith cadarnhaol wedi’i wneud i ddarparu gofal a chefnogaeth briodol, fod oedi y gellid ei osgoi wrth asesu anghenion merch Ms B yn ystod 2023. Golygai hyn fod cyfleoedd wedi’u colli i nodi ei hanghenion gofal a chefnogaeth newydd yn gynharach. Mae hyn yn anghyfiawnder iddi hi a Ms B. I’r graddau hyn, cadarnhawyd cwyn Ms B.

Yn ogystal, ni ymatebodd y Cyngor yn briodol i gŵyn Ms B, yn benodol ei chais am ymateb Cam 2. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Ms B.

Derbyniodd y Cyngor argymhellion yr Ombwdsmon. Cytunodd i ymddiheuro i Ms B am y methiannau a nodwyd gan yr ymchwiliad. Cytunodd hefyd i atgoffa swyddogion perthnasol o’r gofynion mewn perthynas ag adolygiadau Cynlluniau Gofal a Chymorth, sicrhau bod pob swyddog perthnasol yn gyfarwydd â chanllawiau ar drin cwynion a beth sy’n cyfrif fel cwyn ac i gysylltu â Ms B i sefydlu pa faterion y mae hi’n eu hystyried heb eu datrys, a chymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r rhain.