Dyddiad yr Adroddiad

06/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau i Blant ag anabledd gan gynnwys grantiau cyfleusterau i'r anabl

Cyfeirnod Achos

202406714

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms B nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn briodol i Ffurflenni Atgyfeirio Aml-Asiantaeth (MARFau) yn ymwneud â’i mab a gyflwynwyd ers 2023. Yn ogystal, dywedodd nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb priodol i gŵyn a wnaeth.

Canfu’r ymchwiliad fod y Cyngor wedi ymateb yn briodol i MARFau ynghylch ei mab. Ni chafodd y rhan hon o gŵyn Ms B ei chadarnhau.

Canfu nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn briodol i gŵyn Ms B, yn benodol ei chais am ymateb Cam 2. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Ms B.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms B ac i sicrhau bod yr holl swyddogion perthnasol yn gyfarwydd â chanllawiau ar drin cwynion a beth sy’n ffurfio cwyn.