Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Magwyr gyda Gwndy

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202504794

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Magwyr gyda Gwndy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad yn ystod cyfnod cyn etholiad drwy gymeradwyo neges ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn honni bod yr Achwynydd, a oedd yn sefyll i gael ei ailethol, wedi cyflawni trosedd mewn perthynas â materion hanesyddol yn ymwneud â’r Cyngor.

Ystyriodd ein hymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau canlynol yn y Cod:

  • 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
  • 7(a) – Ni ddylech ddefnyddio eich swydd mewn modd amhriodol i greu mantais neu anfantais i chi eich hun neu i unrhyw berson arall.

Cafwyd gwybodaeth berthnasol gan y Cyngor a’r Heddlu. Cafodd yr Achwynydd ei gyfweld. Ystyriwyd ymatebion ysgrifenedig yr Aelod (y rhai a ddarparwyd yn anffurfiol ac fel dewis arall yn lle cyfweliad ffurfiol).

Canfu’r Ombwdsmon fod y dystiolaeth yn awgrymu bod yr Aelod yn debygol o fod wedi dangos ymddygiad amharchus tuag at yr Achwynydd, a oedd yn awgrymu toriad o dan baragraff 4(b) y Cod, sef diffyg parch. Fodd bynnag, nid oedd ymddygiad yr Aelod yn cyfiawnhau canfyddiad o dan baragraff 7(a) y Cod, sef defnyddio swydd yn amhriodol.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach wrth ystyried budd y cyhoedd. Nid oedd y toriad yn ddigon difrifol i gyfiawnhau camau pellach. Gan ystyried bod yr Aelod wedi derbyn bod y sylwadau yn y neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn amhriodol ac wedi ymddiheuro i ni am ei chamgymeriad, roedd yr Ombwdsmon o’r farn na fyddai cyfeirio’r mater at Bwyllgor Safonau’r Cyngor Sir ar gyfer gwrandawiad er budd y cyhoedd, nac yn ddefnydd cymesur o’i hadnoddau cyfyngedig.