Dyddiad yr Adroddiad

02/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202509668

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Honnwyd fod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy fethu â chydweithredu ag ymchwiliad parhaus yr Ombwdsmon ynghylch ymddygiad aelod o awdurdod arall (“Cynghorydd Y”).

Dechreuwyd ymchwiliad i ystyried a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(2) y Cod, sy’n nodi bod yn rhaid i aelodau gydymffurfio ag unrhyw gais gan yr Ombwdsmon mewn cysylltiad ag ymchwiliad a gynhelir yn unol â phwerau statudol yr Ombwdsmon.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi bod yn dyst yn ymchwiliad Cynghorydd Y, ac er ei fod wedi ymgysylltu â phroses yr Ombwdsmon yn y lle cyntaf ac wedi cytuno ar ddrafft o ddatganiad tyst ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw, methodd wedyn â dychwelyd y datganiad terfynol wedi’i lofnodi, er gwaethaf ceisiadau dro ar ôl tro, dros gyfnod estynedig. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 6(2) y Cod. Fodd bynnag, nodwyd hefyd, unwaith yr oedd ymchwiliad wedi dechrau ynghylch ymddygiad yr Aelod ei hun, iddo ail-ymgysylltu’n gyflym, darparu ymddiheuriad ac eglurhad, a dychwelyd y datganiad wedi’i lofnodi.

Gan ystyried ail-ymgysylltiad yr Aelod, ei amgylchiadau personol, ei edifeirwch, ei ymddiheuriad, a’r ffaith iddo ddychwelyd y datganiad, y gellid eu hystyried yn ffactorau lliniarol, ar ôl pwyso a mesur, penderfynwyd, hyd yn oed pe bai torri’r Cod yn cael ei benderfynu, ei bod yn annhebygol y byddai sancsiwn yn cael ei osod wedi gwrandawiad. Felly, ystyriodd yr Ombwdsmon na fyddai’n gymesur nac er budd y cyhoedd i gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater.

Serch hynny, argymhellodd yr Ombwdsmon yn gryf fod yr Aelod yn ymgymryd â hyfforddiant gloywi ar y Cod, yn enwedig mewn perthynas â’i rwymedigaethau a’i ddyletswyddau o dan baragraff 6(2), a’i ddyletswydd i lynu wrth yr Egwyddorion sy’n sail i’r Cod.