Cwynodd Mr A nad oedd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhoi cymorth iechyd meddwl iddo er bod angen clir arno.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â Mr A ynghylch apwyntiad fel claf allanol, nad oedd wedi rhoi dyddiad ar gyfer pryd y byddai’r apwyntiad yn cael ei gynnal oherwydd problemau staffio. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 1 mis, yn rhoi diweddariad ystyrlon i Mr A, ac yn cadarnhau pryd y byddai’n cael diweddariad pellach.