Dyddiad yr Adroddiad

30/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202601822

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch y gwaith atgyweirio ar ei eiddo.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cydnabod y pryderon fel cais gwasanaeth, nad oedd wedi ymateb drwy’r weithdrefn gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A, o fewn 3 wythnos, am beidio â mynd i’r afael â’r gŵyn drwy’r weithdrefn gwyno, egluro pam fod hyn wedi digwydd, a chyhoeddi ymateb cam 1 i’r gŵyn.