Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymateb cam 2 ffurfiol i’r gŵyn, o fewn 4 wythnos i’r llythyr penderfyniad, ac ymddiheuro am yr oedi, y diffyg diweddariadau ac egluro pam fod hyn wedi digwydd.