Cwynodd Mr B fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu ag ymateb i’w gŵyn Cam 2.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymddiheuro am yr oedi ac wedi darparu diweddariadau i Mr B, ei fod wedi methu â rhoi ymateb Cam 2 i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb Cam 2 i gŵyn Mr B o fewn 24 diwrnod gwaith.