Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ganddo ym mis Ebrill 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i’r gŵyn o fewn yr amserlen berthnasol ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i esbonio ac ymddiheuro i Mr A am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn, cynnig iawndal o £150 i Mr A am yr oedi, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.