Cwynodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sylw digonol i’w phryderon a bod angen gwelliannau pellach i’w wasanaeth. Mynegodd bryderon pellach hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd eto wedi cael cyfle i ymchwilio i’r mater.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i agweddau ar gŵyn Mrs A hyd yma.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i gŵyn Mrs A, o fewn 1 mis, a fyddai’n ceisio mynd i’r afael â’r pryderon ychwanegol roedd wedi’u codi ers hynny.