Dyddiad yr Adroddiad

25/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202601134

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar chwaer gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd Ms A yn poeni bod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn cael gwybodaeth gan ysbyty arall, a oedd wedi arwain at oedi cyn cadarnhau diagnosis ei chwaer o fethiant y galon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhesymol, a rhoddodd esboniadau manwl am y gofal a ddarparwyd. Fodd bynnag, ar sail yr esboniadau, roedd yn amlwg bod sawl cyfle i’r Bwrdd Iechyd ofyn am yr wybodaeth gan yr ysbyty arall, i gadarnhau methiant y galon yn gynt. O ganlyniad, nid oedd chwaer Ms A yn gallu dechrau triniaeth canser yn gynharach. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn na allai ddweud p’un a fyddai diagnosis cynharach wedi newid y canlyniad; ond gallai fod wedi gwella ansawdd bywyd Ms A dros ei misoedd olaf. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A, o fewn 1 mis, a rhoi diweddariad iddi ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad ymchwiliad y Bwrdd Iechyd.