Cwynodd Ms C fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â chwblhau atgyweiriadau i’w heiddo sydd wedi achosi i’r problemau lleithder waethygu.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr atgyweiriadau i’w heiddo wedi cael eu cwblhau. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a straen i Ms C a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu llythyr at Ms C sy’n nodi amserlen y gwaith arfaethedig, faint o amser yr amcangyfrifir y bydd y gwaith yn ei gymryd, yn ogystal â’r dyddiad cychwyn i’w gytuno, o fewn 2 wythnos.