Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i gŵyn a gododd ym mis Rhagfyr 2024 mewn perthynas â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr.
Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn ymateb i gŵyn Mrs A. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos. Bydd yr ymateb yn cynnwys ymddiheuriad a chynnig o iawndal o £150 am yr amser a’r drafferth.