Cwynodd Ms B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cysylltu â hi ers mis Gorffennaf 2025, pan roddodd wybod iddi ei fod wedi canfod tor-dyletswydd mewn perthynas â’i chŵyn am ofal a thriniaeth ei diweddar frawd yng nghyfraith fel claf mewnol. Dywedodd y Bwrdd Iechyd ei fod angen ymchwilio a oedd atebolrwydd cymhwysol yn bodoli.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai’n ymchwilio i gŵyn Ms B gan fod y Bwrdd Iechyd, er bod oedi, yn bwrw ymlaen ag achos Ms B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms B o fewn 4 wythnos i ymddiheuro, rhoi diweddariad ac eglurhad am yr oedi, a rhoi diweddariadau rheolaidd iddi o hyn ymlaen.