Dyddiad yr Adroddiad

10/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202600764

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â rhoi sylw llawn i’w bryderon na ddilynwyd y broses gywir wrth ymgymryd â sgan MRI, a gallai hynny fod wedi effeithio ar y canlyniadau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr X ond nad oedd wedi mynd i’r afael â’i bryder nad oedd y llifyn wedi’i roi’n gywir. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach, o fewn 2 wythnos, i fynd i’r afael â’r pryder sy’n gysylltiedig â rhoi’r llifyn.