Dyddiad yr Adroddiad

26/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202600658

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi methu ag ymateb i bryderon â’i Broses Diogelu.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn i’r Cyngor roi adborth i Ms A yn ystod y Broses Ddiogelu a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd iddi hi a’i theulu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms A a chynnig iawndal ariannol o £200 iddi. Rhoddodd y Cyngor dystiolaeth i ni o gydymffurfiaeth â’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar 24 Mehefin 2026.