Cwynodd Ms A, ar ran Ms B, nad oedd Cyngor Sir y Fflint wedi ymateb o dan Gam 1 o’i broses gwyno, i gŵyn a wnaed ym mis Awst 2025. Methodd ag uwchgyfeirio i Gam 2.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ei ymateb Cam 1, a oedd yn cynnwys ymddiheuriad, ar ôl i’r gŵyn gael ei chyflwyno i’w swyddfa, y bu oedi sylweddol cyn ymateb. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig £150 i Ms B, o fewn 2 wythnos, am yr amser a’r drafferth a gafodd.