Dyddiad yr Adroddiad

10/06/2026

Achos yn Erbyn

Adra

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202600394

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Gymdeithas Dai wedi methu â chwblhau’r gwaith atgyweirio o fewn amserlenni ymateb priodol a’i fod wedi methu ag uwchgyfeirio ei bryderon, er ei fod wedi rhoi gwybod nad oedd yn dal yn fodlon.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi uwchgyfeirio pryderon Mr A yn briodol drwy’r broses gwyno ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai y byddai, o fewn 30 diwrnod, yn rhoi esboniad ac ymddiheuriad am beidio ag uwchgyfeirio pryderon Mr A yn ffurfiol drwy’r broses gwyno yn ogystal â darparu ymateb cynhwysfawr ffurfiol i’r gŵyn gan fynd i’r afael â phob un o’r materion a godwyd gan Mr A, yr hyn sydd wedi cael ei wneud hyd yma, a pha gamau y bydd yn eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw broblemau sydd heb eu datrys.