Dyddiad yr Adroddiad

01/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202600346

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ysgrifenedig ac mewn cyfarfod ynghylch y driniaeth a’r gofal a dderbyniodd ei diweddar chwaer.

Canfu’r Ombwdsmon fod pryderon wedi cael eu codi dros 7 mis yn flaenorol ac nad oedd Dr A wedi cael ymateb ffurfiol o hyd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod gan Dr A gwestiynau heb eu hateb oherwydd hyn a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb yn ffurfiol sy’n cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi i Dr A o fewn 6 wythnos.