Cwynodd Ms A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal angiogram gyda phrofion procio i gadarnhau neu ddiystyru diagnosis o angina fasosbastig, ac nad oedd cynllun rheoli clir ar waith ar gyfer ei symptomau parhaus.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd cynllun rheoli clir ar gyfer symptomau parhaus Ms A.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, i ymddiheuro i Ms A ac adolygu ei rheolaeth feddygol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyfeirio Ms A at ganolfan arbenigol, o fewn 2 fis, i ystyried angiograffeg goronaidd gyda phrofion procio, yn amodol ar y cymeradwyaethau perthnasol ar gyfer cyllid a chydsyniad Ms A, ac i’w hadolygu yng ngwasanaethau cardioleg y Bwrdd Iechyd, ar yr amod ei bod yn cytuno.