Dyddiad yr Adroddiad

11/06/2026

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Taf

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202600205

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod Cymdeithas Tai Taf wedi methu ag ymateb i’r holl bryderon a godwyd ganddi. Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi ymateb, nad oedd wedi rhoi ymateb a oedd yn mynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms B a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i roi ymateb, o fewn 4 wythnos, sy’n mynd i’r afael â’r holl bryderon a godwyd ac sy’n ateb y cwestiynau, yn ogystal ag ymddiheuro am beidio â mynd i’r afael â’r pryderon hyn ac egluro pam yr oedd wedi digwydd.