Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr yn yr ysbyty (“yr Ysbyty”). Dywedodd Ms A nad oedd ei gŵr wedi cael gofal hylendid priodol yn yr Ysbyty a bod y cyfathrebu gan yr Ysbyty ynghylch dirywiad ei gŵr yn wael. Holodd Ms A hefyd pam nad oedd ei gŵr wedi cael diagnosis o sepsis yn gynt a gofynnodd a fyddai diagnosis cynharach wedi cael effaith ar ei ganlyniad.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi cael ymateb i gŵyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) ond nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r pryderon ychwanegol yr oedd Ms A wedi’u codi ar ôl cael yr ymateb hwnnw. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol o fewn 2 wythnos:
a) Pennu dyddiad i gynnal cyfarfod gyda Ms A.
O fewn 1 mis i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn a) uchod, bydd y Bwrdd Iechyd yn gwneud y canlynol:
b) Darparu ymateb ffurfiol pellach i’r gŵyn