Cwynodd Miss C fod Cyngor Sir Powys wedi cyfrifo’n anghywir ei bod wedi cael gordaliad Budd-dal Tai ac nad oedd wedi rhoi gwybodaeth glir iddi am sut roedd y gordaliad wedi cael ei gyfrifo. Cwynodd Miss C hefyd am y camau yr oedd y Cyngor wedi’u cymryd i adennill y ddyled a’r oedi cyn dyfarnu’r budd-daliadau yr oedd ganddi hawl iddynt.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw fai yng nghyfrifiad y Cyngor o’r gordaliad, ond nad oedd yr ohebiaeth yn glir ac achosodd hynny ansicrwydd i Miss C ynghylch y ddyled. Bu oedi cyn gohirio camau gorfodi a dyfarnu Taliad Disgresiwn at Gostau Tai. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi diystyriad disgownt o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd i egluro natur y ddyled.