Cwynodd Mrs A am reolaeth a gofal ei gŵr yn Ysbyty’r Faenor ar ôl iddo gael ei dderbyn yno yn 2025. Mae Mr A, sydd â chlefyd niwronau motor (“MND”) datblygedig, yn ddibynnol ar beiriant cymorth anadlu anfewnwthiol (“NIV”) 24 awr y dydd. Er gwaethaf ei chais, roedd staff nad oeddent yn deall sut roedd ei NIV yn gweithio wedi effeithio ar y gosodiadau. Nododd Mrs A fod eu camau wedi achosi anawsterau anadlu i Mr A ac roedd hynny wedi bod yn drawmatig iddo.
Fel rhan o setliad datrysiad cynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd camau penodol a oedd yn cynnwys rhoi ymddiheuriad annidwyll pellach i Mr a Mrs A. Cytunodd hefyd i roi rhagor o wybodaeth iddynt, gan gynnwys cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru o’r camau yr oedd wedi’u cymryd o ganlyniad i’w cwyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i fwrw ymlaen â chamau gweithredu a oedd yn canolbwyntio ar anghenion Mr A ac unrhyw addasiadau rhesymol.