Cwynodd Mr A am ei fod yn anfodlon â’r camau a gymerwyd a’r ymateb i gŵyn gan Gyngor Bro Morgannwg mewn perthynas ag ysgol uwchradd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn ystyried pryderon Mr A yn unol â chyfyngiadau o ran yr hyn y gall ei ystyried ar gyfer cwynion yn erbyn ysgolion. Roedd y Cyngor wedi adolygu gweithdrefn gwyno’r ysgol ac wedi penderfynu ar weithredoedd ei swyddogion ei hun, ond ni allai ystyried sylwedd y gŵyn ei hun. Serch hynny, nododd yr Ombwdsmon, yn dilyn ymateb Cam 2 y Cyngor i’r gŵyn, fod yr ysgol wedi rhoi rhagor o wybodaeth i Mr A nad oedd wedi cael ei datgelu yn flaenorol. Felly, nid oedd yn glir a oedd yr ymchwiliad Cam 2 wedi ystyried yr wybodaeth honno a p’un a fyddai’r wybodaeth yn newid canlyniad y gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i adolygu’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr ysgol, o fewn 1 mis, yn erbyn y dogfennau ymchwilio Cam 2 i benderfynu a gafodd ei hystyried i ddechrau ac a fyddai’n newid y canlyniad, a rhoi ymateb wedi’i ddiweddaru i Mr A.